Copy
English
Rhifyn 15  Fersiwn Llawn   |  Rhagfyr 2017

Cyfarchion y Tymor a chroeso i e-gylchlythyr diweddaraf ADSS Cymru


Wrth i 2017 ddod i ben, rydyn ni'n crynhoi'r cynnydd diweddaraf ar waith a wneir gan arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu'r gweithlu a gwella'r ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer pobol sy'n derbyn gofal, ac yn edrych ymlaen at 2018.

Cornel y Llywydd


Yn gyntaf, hoffwn ymestyn diolch mawr i bawb a fynychodd ein Seminar yr Hydref ar ddiwedd mis Tachwedd. Wnaeth ein thema o gyflenwi gofal personoledig - gwyrdroi'r byd - taro cord gyda phobl, ac mae'r adborth wedi bod yn arbennig o gadarnhaol. Mae adolygiad byr o gynnwys y seminar yn dilyn isod.

Roeddem yn falch iawn i groesawu'r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol newydd, Huw Irranca-Davies AC i ran olaf y diwrnod, ac cawsom ein hannog gan ei fod wedi aros i gyfarfod a siarad â chydweithwyr. Cynhaliais I a’n Is-Lywydd, Jenny Williams cyfarfod dilynol gyda'r Gweinidog ar ddechrau mis Rhagfyr, ac fe nododd ef ei barodrwydd i gwrdd â chynrychiolwyr o ADSS Cymru yn amlach wrth symud ymlaen.

Mae 2017 wedi gweld penderfyniad hollbwysig ar weithrediad ADSS Cymru yn y dyfodol. Yn ein CCC ym mis Tachwedd, ac yn dilyn llawer o fisoedd o drafodaeth, fe wnaethom gytuno'n unfrydol i ddod yn gorff corfforedig. Bydd hyn yn ein rhoi ar sail llawer mwy ffurfiol fel sefydliad ac rydym yn edrych ymlaen at weld y newid hwn yn dod i rym ym mis Ebrill 2018.

Mae'r cylchlythyr hwn hefyd yn rhoi'r cyfle i mi gydnabod datblygiad pellach ein Huned Busnes, ac i groesawu'n ffurfiol Paul Pavia a Rachel Pitman, a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu polisi, a chyfathrebu ac ymgysylltu.

Mae cyfarfodydd wedi'u cynnal yn rheolaidd gyda phartneriaid allweddol, yn enwedig Gofal Cymdeithasol Cymru, AGGCC a Chydffederasiwn GIG Cymru, gyda'r bwriad o greu cysylltiadau cryfach ynghylch rhai o'r materion allweddol. Yn amlwg, mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol wedi rhoi cyfle hir ddisgwyliedig i bobl ddeall manteision ac effaith ehangach gofal cymdeithasol, ac rwy'n hynod falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Gofal Cymdeithasol Cymru i dynnu sylw at fanteision economaidd y sector. Bydd ein cyd-Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol ym Medi 2018 hefyd yn creu cyfle pwysig i ddod â'r sector ynghyd i drafod a rhannu syniadau.

Bydd adroddiad Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lansio ar 16 Ionawr 2018 ac yn sicr, dyma fydd y cyntaf o nifer o faterion allweddol y bydd angen i ni eu hystyried fel sefydliad yn 2018.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb am eich cefnogaeth barhaus a dymunwn Nadolig Llawen iawn a blwyddyn newydd hapus ac iach i chi a'ch teuluoedd.


Dave Street

Llywydd ADSS Cymru

Gwyrdroi'r byd yn Seminar yr Hydref ADSS Cymru

Roedd yn bleser i groesawu'r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol newydd, Huw Irranca-Davies AC i Seminar yr Hydref yn Llandrindod ym mis Tachwedd. Lansiodd y Gweinidog ddwy ganllaw arfer da, sef Comisiynu Gwasanaethau ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu ac Arwain Comisiynu Integredig a Chydweithredol a chyfarfu ag uwch-weithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru yn ein digwyddiad ADSS Cymru diweddaraf.

Daeth y seminar, Gwyrdroi’r Byd: Ail-lunio’r farchnad gofal cymdeithasol yng Nghymru i gyflenwi gofal personoledig, ag amrywiaeth o siaradwyr ynghyd gyda'r briff pwysig - i'n herio ni a'r ffyrdd confensiynol o feddwl.

Yn ein sesiwn ar ‘gweld gofal cymdeithasol o’r ochr draw', edrychodd Bruce McLernon, cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, cadeirydd presennol Fforwm Cenedlaethol y Ddarparwyr ac ymgynghorydd i'r darparwr gofal preswyl a nyrsio cenedlaethol, HC-One, ar sut y gallwn ni cyd-daclo’r pryderon cyffredin tra'n cydnabod y blaenoriaethau gwahanol.

Canolbwyntiodd Adrian Roper o Cartrefi Cymru ar sut y gallwn ail-lunio'r amgylchedd gofal cymdeithasol i gyd-gynhyrchu gofal personoledig, gyda chyflwyniad a deliodd gyda syniadau pryfoclyd a enwodd: 'rhagfarn gymdeithasol', 'uchelgais personol', 'hierarchaethau proffesiynol', ' hierarchaethau biwrocrataidd ', ac' ideoleg y farchnad '.

Amlinellodd Karen Benjamin, Rheolwr Rhanbarthol 4Cs Cymru, yr her o gyflenwi gofal personol i blant a phobl ifanc yn y farchnad lleoliad, gan ganolbwyntio ar: yr amrywiaeth o leoliadau a sut mae angen i ni ddatblygu modelau gofal newydd i wella gofal personoledig. Bu hefyd yn trafod y problemau gallu modelau gofal traddodiadol yn y farchnad lleoliadau, effaith chwiliadau lleoliadau 'ar frys' gan awdurdodau lleol, sut allwn ni cyflenwi gofal personoledig wedi'i gydweddu'n dda mewn amgylchedd o argyfwng gydag ansawdd atgyfeirio gwael, a sut ydym yn creu fwy o amser yn y broses cynllunio gofal.

Ein sesiwn siarad olaf oedd gan Steve Vaughan, Rheolwr y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, a Léonie Cowen, cyfreithiwr gydag arbenigedd mewn comisiynu a chaffael, a wnaeth amlinellu rhai gofynion i wella canlyniadau i unigolion a gofalwyr sydd angen gofal a chymorth. Mae comisiynu effeithiol yn ymwneud â sicrhau amrywiaeth, math a chynhwysedd priodol y gwasanaethau ac mae’n dibynnu ar ymagwedd system cyfan tuag at gyflawni asesiadau da, llwybrau effeithiol, a data o ansawdd da.

Mae Seminar yr Hydref yn un o sawl digwyddiad a gynhelir yn flynyddol gan ADSS Cymru i gynnyddu’r trafodaeth ar faterion allweddol ymysg arweinwyr y gwasanaethau cymdeithasol. Wrth gloi'r diwrnod, disgrifiodd Llywydd ADSS Cymr,u Dave Street y seminar fel "hanfodol ar gyfer symud y sector yn ei blaen". Cynhelir digwyddiadau pellach yn 2018, gan gynnwys ein Seminar Gwanwyn ym mis Mawrth. Gwelwch rhagor o fanylion ar ein tudalen digwyddiadau.

Cyfraniad gan Westai: Pam y mae gan fentrau cydweithredol rywbeth i’w gynnig i ofal cymdeithasol 

Cydweithredu i Ofalu

Mae Cymru yn gyffrous ar y blaen o ran datblygiadau newydd a chadarnhaol mewn gofal cymdeithasol, gyda'i cymhwysiad o werthoedd ac egwyddorion cydweithredol i drefnu a chyflenwi gofal a chymorth. Mae pobl gydag anghenion a buddiannau a rennir yn dod at ei gilydd i ffurfio eu mentrau cydweithredol eu hunain, ac mae asiantaethau gofal presennol yn gweddnewid eu hunain ar hyd llinellau cydweithredol.

Beth yw menter gydweithredol? Yn syml, mae’n grŵp o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n helpu’r holl aelodau. Natur foesegol mentrau cydweithredol, sy’n canolbwyntio ar yr aelodau, yw’r hyn sy’n eu gwneud yn fodel mor ddeniadol ar gyfer trefnu gofal cymdeithasol. Dim ond gweithwyr sy’n aelodau o rai mentrau cydweithredol gofal cymdeithasol. Nid yw hyn yn golygu nad ydynt wedi eu hymrwymo i rymuso’r bobl maent yn eu cefnogi. Mae enghreifftiau gwych o fentrau cydweithredol gweithwyr yn rhoi’r ymrwymiad hwnnw ar waith. Ond mae menter gydweithredol lle mae’r bobl sy’n derbyn y gefnogaeth yn aelodau pleidleisio llawn yn amlwg yn cynnig rhywbeth ychwanegol. Mae rhai mentrau cydweithredol wedi eu trefnu fel mentrau defnyddwyr. Mae rhai yn fentrau cydweithredol “rhanddeiliaid lluosog”, yn caniatáu i’r rhoddwyr (gweithwyr) a’r sawl sy’n derbyn gofal a chymorth (pobl/dinasyddion) i fod yn aelodau pleidleisio llawn. Mae hyn yn rhoi cyfle i gydbwyso barn bwysig, ac yn cynnig i weithwyr-aelodau y parch a’r gydnabyddiaeth nad ydynt bob amser yn eu cael mewn gofal cymdeithasol. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn annog yn benodol rhoddwyr a defnyddwyr gofal cymdeithasol i weithio gyda’i gilydd yn gyfartal, a chyd-gynhyrchu canlyniadau gwasanaeth. Mae’r fenter gydweithredol rhanddeiliaid lluosog yn fodel gwych ar gyfer y dull cydweithredol hwn.

Pam y mae agwedd foesegol, canolbwyntio ar yr aelod, mentrau cydweithredol mor bwysig yng nghyd-destun gofal cymdeithasol? Yn bennaf, mae oherwydd ei fod yn lleihau’r perygl o niwed i bobl fregus. Os ydych yn aelod cyd-feddiannol o fudiad gofal sy’n bodoli ar gyfer a thrwy ei aelodau, rydych yn llai tebygol o gael eich anghofio neu eich gwthio i’r cyrion gan rai sy’n cymryd penderfyniadau o bell, ac rydych yn fwy tebygol o gael aelodau o’ch cwmpas sy’n ystyried eich bod chi yn bwysig, ac sydd â’r statws a’r anogaeth gyfundrefnol i leisio barn. Os ydych chi’n aelod cyd-feddiannol o’ch menter gydweithredol gofal eich hun, medrwch fod yn hollol sicr nad oes neb yn torri ar ansawdd eich gofal er mwyn eu gwneud nhw eu hunain neu unrhyw un arall yn gyfoethocach.

Ac mae gwerthoedd cydweithredol hefyd yn bwysig oherwydd eu bod yn gyson yn annog mentrau cydweithredol i wneud mwy a bod yn fwy na busnesau sy’n poeni amdanyn nhw eu hunain. Mae’r ffocws ar wneud y peth iawn i’w haelodau yn arwain yn naturiol at wneud y peth iawn i’r cymunedau lle mae eu haelodau’n byw. Yn sicr, nid yw mentrau cydweithredol yn golygu datrys her ariannol gofal cymdeithasol trwy gynnig gwasanaeth rhatach na darparwyr eraill. Ond maent yn cynnig y posibilrwydd o sicrhau bod bob punt a werir ar ofal cymdeithasol yn cael ei gwario yn y dull gorau. Nid derbyn gofal a chymorth yn unig y mae aelodau mentrau gofal cydweithredol. Maent yn cyfrannu. Maent yn cefnogi ei gilydd. Maent yn gwerthfawrogi a meithrin perthnasau newydd. Maent yn llunio cymunedau gwell i bawb.
 

Os hoffech chi gael gwybod rhagor, cysylltwch â’r tîm Cydweithredu i Ofalu yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru. Diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gall y tîm gynnig gwybodaeth, pecynnau cychwyn, cymorth ymarferol a chlust gyfeillgar gydweithredol.

Diweddariadau ar Ddatblygu'r Gweithlu yn y Rhanbarthau

Diweddariad Datblygu'r Gweithlu: Caerdydd a Bro Morgannwg


Mae'r rhanbarth yn parhau i adeiladu ar yr hyfforddiant sy’n cael ei gynnig a gwella presenoldeb yn yr holl gyrsiau. Fe wnaethom ni ddarparu cyfleoedd dysgu i dros 151 o Asiantaethau Gofal Annibynnol ar draws y rhanbarth yn ogystal ag ar gyfer staff mewnol y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cynigion ni 282 o wahanol gyrsiau trwy 782 o sesiynau hyfforddi yn dilyn galw cynyddol o’r meysydd gwasanaeth a’r dadansoddiad anghenion hyfforddi.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhan lawn o’r hyfforddiant. Mae’n parhau i fod yn sail hollbwysig o ddull Arwyddion Diogelwch (Caerdydd), ‘Sgyrsiau Gwell’ ‘Ymarfer yn Canolbwyntio ar Ganlyniadau a Hyfforddiant Dementia.

Mae 2017 wedi bod yn gyfnod allweddol yng nghyfuniad arfaethedig Unedau Hyfforddiant Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg. Cafwyd trafodaethau gyda darparwyr allanol gofal cymdeithasol yn ogystal â Staff yr Unedau Hyfforddi.  Roedd y rhain yn gadarnhaol iawn ac yn rhoi sail ardderchog ar gyfer datblygu cydweithio.

Mae Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol wedi myn o  nerth i nerth, gan ddatblygu ffrydiau gwaith i sicrhau bod blaenoriaethau allweddol a gydnabyddwyd yn cael eu cwrdd.  Rydym yn hyderus y bydd y cyfuniad arfaethedig yn gwella darpariaeth cyfleoedd hyfforddiant a datblygu ac yn gwneud gwell ddefnydd o adnoddau ac osgoi dyblygu ymdrech.

Datblygwyd ein wefan newydd Caerdydd a’r Fro er mwyn hybu holl agweddau gofal cymdeithasol, helpu cyfathrebu a darparu gwybodaeth.  

Fel rhan o’n hymrwymiad i Ddarpariaeth Ddwyieithog o Wasanaethau rydym wedi parhau i gynnal sesiynau hyfforddiant ar bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal cymdeithasol.

Diweddariad Datblygu'r Gweithlu: Gorllewin Cymru


Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Cymru wedi mabwysiadu pum laenoriaeth strategol sy’n adlewyrchu ei gyfrifoldebau statudol a rheidrwydd rhanbarthol ac wedi sefydlu rhaglenni er mwyn cefnogi cyflenwi gweithgaredd integredig yn erbyn pob blaenoriaeth.  Yn sail i bob un o’r blaenoriaethau yma mae ymrwymiad ar y cyd at dyfu gweithlu effeithiol a medrus i gwrdd â’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw o drawsnewidiad gofal a chefnogaeth yn y rhanbarth.

Cam cynnar oedd penodi rheolwr rhaglen rhanbarthol gyda chyfrifoldeb am y gweithlu a dechreuodd Rebecca Jones yn y swydd yma yng Ngorffennaf 2017. Mae Rebecca’n gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a Gofal Cymdeithasol Cymru ar raglen amrywiol sy’n cynnwys:
  • cyflenwi amrywiaeth o gynlluniau a ariennir trwy Grant Hwyluso Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys hyrwyddo gofal a chefnogaeth fel dewis gyrfa, hyfforddiant i staff gofal yn y cartref i’w helpu i baratoi ar gyfer heriau’r strategaeth Gofal yn y Cartref, a hyfforddiant ar draws y sectorau ar oblygiadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
  • gweithio gyda rheolwyr hyfforddi awdurdodau lleol er mwyn datblygu agwedd rhanbarthol at Grant Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, gan adeiladu ar drefniadau sydd eisoes mewn grym, a chael yr effaith mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael yn y rhanbarth a sicrhau bod yr arian yn helpu i gyflenwi blaenoriaethau strategol y BPRh
  • adolygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu gyda’r sector ehangach ar agenda’r gweithlu, er mwyn sicrhau ffordd cyd-gynhyrchiol ymlaen.
Ymrwymiad allweddol arall yw datblygiad strategaeth gweithlu integredig ar gyfer gofal a chefnogaeth yng Ngorllewin Cymru. Penodwyd y Sefydliad Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Oxford Brookes i ymgymryd â cham cwmpasu cychwynnol. Dangosodd hyn sawl maes i ganolbwyntio arnyn nhw a fydd yn cael eu parhau yn ystod y cam nesaf, gan gynnwys adeiladu cronfa data’r gweithlu er mwyn trwytho gweithgareddau yn y dyfodol, sefydlu rhaglen datblygu wedi ei rhannu sy’n cefnogi staff i gyflenwi’r modelu gofal newydd y mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn amdanyn nhw ac edrych ar ffyrdd newydd o gydweithio ar draws asiantaethau mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r gweithlu. Bydd dull partneriaeth yn cwmpasu uwch swyddogion o’r awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn cael ei fabwysiadu wrth gymryd y gwaith yma ymlaen.

Mae gwybodaeth bellach ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu yng Ngorllewin Cymru ar gael oddi wrth Rebecca Jones, 01267 288755 neu 07384 242268.

Diweddariad Datblygu'r Gweithlu: Gwent Fwyaf


Mae gan Bwrdd Rhanbarthol Datblygiad Gweithlu Gwent Fwyaf aelodaeth esblygol sydd eisoes yn cynnwys cynrychiolaeth gan Gyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth, y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol, Adnoddau Dynol a Rheolwyr Datblygiad y Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, a rheolwyr strategol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae’r bwrdd yn gwerthfawrogi ymrwymiad ei aelodau i gefnogi Blaenoriaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol a adnabyddwyd gan Lywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Roedd gan Gynllun Datblygu Gweithlu Gwent Fwyaf 201/17 bum deilliant rhanbarthol wedi’u cynllunio gyda 35 o feysydd gweithgaredd cysylltiol.  Mae’r adroddiad yn dangos bod 31 maes yn y dosbarth gwyrdd, tri yn y dosbarth melyn,  dilëwyd un maes o’r rhaglen genedlaethol felly mae’r Rhanbarth yn falch iawn o ganlyniad ar ddiwedd y flwyddyn o 91% o lwyddiant. Ar y pwynt canol mae Cynllun 2017/18 ar y trywydd iawn a byddem yn disgwyl camau cadarnhaol wrth adrodd am y flwyddyn.

Mae’r dull wedi ei gynllunio ar gyfer blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol wedi cael ei gryfhau gan ymrwymiad i sicrhau bod “Edau Aur” yn unioni deilliannau blaenoriaeth i’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd Rhanbarthol Datblygu’r Gweithlu yn gwerthfawrogi manteision cydweithio a thrwy ei aelodaeth wedi sicrhau ei fod yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau arweiniol, grwpiau datblygu a fforymau strategol, o fewn Cymru a’r Rhanbarthau, gan gynnwys:
  • datblygiad a gweithredu’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • gwobr Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
  • rhaglen Camu Ymlaen i Rheoli yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru (yn adeiladu ar seiliau’r rhaglen beilot ac yn rhannu gyda rhanbarthau eraill)
  • aelodaeth o grwpiau strategol allweddol sy’n cefnogi cynllun peilot Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol , a dysgu o weithredu’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol  
  • cynllun Recriwtio a Chadw Gofal yn y Cartref
  • ymwneud â datblygu fframwaith gallu ar gyfer Gweithwyr Gwybodaeth Cyngor a Chymorth
  • cefnogi pedwar rhaglen gradd mewn gwaith cymdeithasol
  • aelodau gweithgor ar gyfer Adolygiad yr anghenion ar gyfer y radd Gwaith Cymdeithasol
  • codi ymwybyddiaeth ac ymgynghori ar gyflwyno a gwerthoedd cyfnewidiol ffioedd cofrestru
  • paratoi cefnogaeth ar gyfer rôl yr Unigolyn Cyfrifol.
Mae gyda ni boblogaeth a demograffig gweithlu amrywiol a mawr, gydag amrywiaeth o fodelau darpariaeth gwasanaethau ar draws y pump Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd, sy’n arwain at atebion diddorol a chreadigol i gefnogi datblygu gweithlu.

Mae mynediad gwell i gyfleoedd datblygu yn parhau i fod yn ffocws ar gyfer datblygu’r gweithlu. Eleni roeddem ni’n falch i gefnogi trefniadau gwaith ar y cyd a gweithredu system Cyfnewid Gwybodaeth yn Ddiogel i gynorthwyo gyda mynediad byw i wybodaeth a chyfleoedd hyfforddi’r gweithlu. 

Mae’r ateb cadarnhaol yma’n cyfannu anghenion pob un o systemau gweinyddol yr Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd, ac mae wedi ychwanegu i’r seiliau ar gyfer cyfleoedd i gydweithio ar ddatblygu’r gweithlu.

Diweddariad Datblygu'r Gweithlu: Gogledd Cymru


Ymgynghorwyd ar y Strategaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru yn ystod Medi a Hydref eleni. Derbyniwyd yr ymatebion a chaiff diwygiadau eu gwneud i’r ddogfen  derfynol, cyn iddi gael ei chyflwyno i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Rhagfyr. Bydd y Strategaeth derfynol ar gael ar wefan Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Mae rhaglen waith drafft wedi ei thynnu at ei gilydd ac ar hyn o bryd yn cael ei gorffen. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan grwpiau gweithredu. Mae hyn y rhaglen waith uchelgeisiol, a byddwn yn cysylltu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru mewn meysydd o weithgaredd tebyg, yn arbennig datblygu Strategaeth Genedlaethol y Gweithlu.

O dan y Grant Hwyluso Rhanbarthol Gogledd Cymru Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym wedi cytuno ar raglen o weithgaredd sy’n cefnogi’r arian grant craidd sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu yn y sector trwy amrywiaeth  o ddulliau a’r arian grant i gefnogi recriwtio a chadw, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a’r Strategaeth Gofal yn y Cartref. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Rhanbarth er mwyn cyflenwi’n ymrwymiadau.

Tair blynedd cyntaf Gweithwyr Cymdeithasol mewn gwaith - Mae pennaeth rhanbarthol y grŵp gwasanaethau plant a rheolwyr hyfforddiant wedi creu dogfen  sy’n creu set gyffredin o ddeilliannau dysgu ar gyfer cyrsiau sy’n addas i Weithwyr Cymdeithasol yn ystod eu tair blynedd gyntaf yn y gwaith. Cytunwyd ar hyn nawr ac rydym yn aros am gytundeb gan benaethiaid gwasanaethau oedolion.

Hyfforddiant Diogelu - Mae is-grŵp hyfforddiant y bwrdd diogelu yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddatblygu cwrs Ymchwiliad ar y cyd / Adran 47 a chwrs Llwyddo i gael y Dystiolaeth Orau fydd yn gyson ar draws y Rhanbarth.

Rhaglenni MA ac Israddedig mewn Gwaith Cymdeithasol - Mae’r ddwy raglen wedi eu hail-ddilysu nawr ac mae unigolion o ar draws y rhanbarth yn gweithio gyda Cyngor Gofal Cymru ar yr adolygiad addysg Gwaith Cymdeithasol.

Cwrs Ymarfer Dysgu - Mae’r rhanbarth yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i ddatblygu cwrs ymarfer dysgu rhanbarthol.

Paratoi at anwytho a chymwysterau gofal cymdeithasol newydd - Rydym yn gweithio ar draws y Rhanbarth ar raglen i gefnogi rheolwyr darparwyr gyda disgwyliadau newydd yn eu rôl mewn perthynas â’r anwytho a’r cymwysterau newydd. 

Diweddariad Datblygu'r Gweithlu: Powys

Mae Cyngor Sir Powys yn gynnyddu ei waith yn gyson â Chynllun Gwaith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys ar gyfer 2017/18, sy’n cynnwys gwaith i gytuno a gweithredu Fframwaith a Chynllun Datblygu’r Gweithlu ar y cyd. Mae'r gwaith yn cynnwys:

  • datblygu Cynllun Gweithlu cynhwysfawr, sy’n gosod cerrig milltir blwyddyn un clir ar gyfer gweithredu
  • datblygu Cynllun Gweithlu Strategol ac Integredig
  • drafftio Strategaeth Recriwtio ac ymchwilio i ymgyrchoedd recriwtio cyffrous gan gynnwys atebion trwy staffio dros dro
  • ymgymryd â dadansoddiad blynyddol o anghenion hyfforddiant y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys hyfforddiant statudol a gorfodol er mwyn trwytho rhaglen o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol ym Mhowys
  • edrych ar fanc gofal integredig i Bowys.

Diweddariad Datblygu'r Gweithlu: Bay'r Gorllewin


Mae nifer o rhaglenni hyfforddiant a gweithgareddau yn digwydd yn gyson a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae rhain yn cynnwys: 
 
Hyfforddiant i Staff Gofal Uniongyrchol - Gweithdai Hyfforddi’r Hyfforddwr i gyflwyno hyfforddiant i staff gofal uniongyrchol.  Mae hyfforddiant i staff gofal uniongyrchol Gofalu â Balchder, yn cynnwys y Cod Ymarfer Proffesiynol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael i staff yn yr Awdurdodau Lleol a’r Darparwyr Annibynnol ar draws y Sector.  Mae mwyafrif y staff yn yr ALlau wedi derbyn yr hyfforddiant nawr.

Hyfforddiant Eiriolaeth - Mae Tros Gynnal ac Age Cymru yn cefnogi cyflwyno hyfforddiant ar draws Fae’r Gorllewin.  Mae gweithdy llwyddiannus Hyfforddi’r Hyfforddwr ar ddiwedd 2016 wedi arwain at nifer o weithdai yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth.
 
Mae Partneriaeth Cynllun Eiriolaeth Bae’r Gorllewin wedi cynhyrchu gwybodaeth i bobl broffesiynol ar y Cynnig Rhagweithiol a bydd yn cyflwyno sesiynau briffio i staff yn Nhachwedd /  Rhagfyr 17
 
Ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau - Lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yr ail gam yn ei rhaglen hyfforddiant ‘Canlyniadau Personol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cam 2' gyda digwyddiad yng Nghaerdydd yn Hydref, yn cynnwys cynrychiolaeth o’r tri awdurdod.  Mae ail cam yr hyfforddiant yma’n gweld ffocws ar fentora a hyfforddi gyda pwedwar sesiwn bellach ar gyfer staff enwebedig (hyd at bump ym mhob awdurdod).  Bydd y sesiynau yma, a gaiff eu hwyluso gan Gofal Cymdeithasol Cymru, eu cynnal yn rhanbarthol.
 
Bydd y rhai  sy’n mynychu’r sesiynau mentora a hyfforddi yn derbyn ‘y wybodaeth a’r sgiliau’ sy’n angenrheidiol i fod yn ‘gefnogwyr/mentoriaid’ cydnabyddedig yn eu sefydliadau priodol ac ymhlith cydweithwyr. Byddan nhw'n mynd ymlaen gyda’r rhaglen canlyniadau personol ac yn sodro’i hegwyddorion a’i dulliau i mewn i ymarfer ar y rheng flaen.  Bydd hyn y digwydd wrth ymyl rhaglenni hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar Ganlyniadau'r ALlau unigol.
 
Gwneud i Ganlyniadau Ddod yn Fyw (digwyddiad rhanbarthol) Mewn partneriaeth gyda Gofal Cymdeithasol mewn Partneriaeth Bae’r Gorllewin a chynllun Dwyn Dysgwyr Ynghyd cynhaliwyd pedwar gweithdy hanner diwrnod ym Mehefin gyda ffocws ar ddatblygu dealltwriaeth clir o beth yw canlyniad.  Cynhalwyd pedwar gweithdy pellach yn ystod Medi a Hydref eleni.
 
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 - Mae digwyddiadau rhanbarthol wedi bod ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar weithredu Cam Dau y Ddeddf a Agweddau’r Gweithlu Cam Dau.  Hefyd ar ymgynghoriad Gofal Cymdeithasol Cymru yn Gweddnewid Gofal yn y 21ain Ganrif.  Gydag ymatebion rhanbarthol wedi eu cyflwyno.
 
Cofrestru’r gweithlu (Cymwysterau)Mae’r casgliad o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei ail-ddatblygu ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo fod ar gael yn ystod 2019, ond bydd y cymwysterau blaenorol yn cael eu derbyn at ddibenion cofrestru.  Mae timau Datblygu’r Gweithlu Bae’r Gorllewin a’r Cydlynydd Partneriaeth Gofal Cymdeithasol yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y sector (gan gynnwys Awdurdodau Lleol) i’w helpu i gyrraedd  Tystysgrifau presennol Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Fframwaith Cymwysterau a Chredyd mewn pryd ar gyfer cofrestru.
 
Roedd y prif ffocws wedi bod ar gael Tystysgrifau Lefel 2 y QCF mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion).  Mae trafodaethau wedi bod â Sefydliadau Addysg Bellach ar draws ardal Bae’r Gorllewin.  Mae Coleg Pen-y-bont, Coleg Gŵyr a Choleg Castell Nedd Port Talbot i gyd wedi cynnig lleoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ffrydiau arian gan gynnwys arian Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.  Mae yna hefyd nifer o ddarparwyr hyfforddiant yn gweithredu ar draws y rhanbarth sy’n cynnig lleoedd wedi eu hariannu’n llawn gan ddefnyddio Arian Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.  Bydd y Bartneriaeth yn dilyn faint o geisiadau fydd am y cyfleoedd yma.
 
Modelau Newydd o Wasanaeth - Mae Datblygiad Gweithlu yn cael eu cynrychioli fel rhan o ffrwd waith sy’n datblygu fel rhan o Raglen Gwasanaethau Cymunedol Bae’r Gorllewin.  Mae’r ffrwd gwaith yma’n canolbwyntio ar “Ddatblygiad Trefniadol System Gyfan”.

Diweddariad Datblygu'r Gweithlu: Cwm Taf (Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful)


Mae Gwasanaeth Datblygu’r Gweithlu yn parhau i sodro Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Act 2014 i bob agwedd o gyflenwi hyfforddiant a chymwysterau. Mae gwaith pellach yn datblygu i gefnogi’r symudiad diwylliannol i ymarfer ar sail cryfderau gan ddefnyddio cyfathrebu cydweithrediadol.  Mae’r rhanbarth newydd gael cyfleoedd datblygu pellach ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol trwy Ofal Cymdeithasol Cymru.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot Arwain Ymalen i Rheoli i ymgysylltu ag ‘uwch rhanbarth’ De Ddwyrain Cymru i gyflwyno’r cyfleoedd nesaf i’r gweithlu.  Mae’r dystiolaeth ar hyn o bryd yn dangos bod yna ddiddordeb uchel yng Nghwm Taf ar gyfer lleoedd ar y rhaglen.

Cynhaliodd Cwm Taf gyfres o ddigwyddiadau ymgynghorol ar y Fframwaith Anwytho Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr haf yr oedd Gofal Cymdeithasol Cymru yn bresennol ynddyn nhw.  Cyfrannodd dros 40 o bobl i’r ymgynghoriad.

Mae yna ymrwymiad parhaol i raglen Arweinwyr Dementia Care Matters. Mae ‘gofynion ar gyfer gweithredu’ ‘r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cael eu cwrdd gan y Tîm Datblygu’r Gweithlu trwy raglen dysgu a datblygu Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

Mae grwpiau Cyflenwi Diogelu ar draws Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn parhau i gryfhau. Mae’r gwersi sy’n cael eu dysgu o archwiliadau achos yn cael eu sodro mewn digwyddiadau cyflenwi.

Diweddariad Penaethiaid Cymru Gyfan o Wasanaethau Oedolion (AWASH): Gweithio Gyda'n Gilydd a'n Partneriaeth

Alwyn Jones, Cadeirydd AWASH


O ystyried nodiadau ein Cyfarfodydd Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan diwethaf, sylwais i ba raddau y mae ein trafodaethau ac, yn ei dro, mae ein gwasanaeth yn dibynnu ar ymgysylltu ag eraill. Mae’r ystod o bartneriaid sy'n cyfrannu at lwyddiant ac ar adegau  brwydrau ein gwasanaethau yn arwyddocaol.

Mae ein hymagwedd at gefnogi pobl i aros gartref, ac i eraill sydd angen derbyniad difrifol, yn dibynnu'n llwyr ar gydweithio'n agos â'n partneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae perthnasau gyda Meddygon Teulu, Nyrsys Ardal a pheirianneg gwasanaethau Ysbytai Acíwt yn aml yn diffinio pa mor dda y mae pobl yn cael eu cefnogi i barhau i fod yn annibynnol, ac i ni helpu i'w cefnogi i gyflawni "beth sy'n bwysig" yn eu bywydau. Mae'r berthynas hon a llwyddiant parhaus ein gwasanaethau cyhoeddus bellach yn destun Adolygiad Seneddol dan gadeiryddiaeth Dr Ruth Hussey.

Hyd yn hyn mae gwaith y comisiwn wedi canolbwyntio ar asesiad o'r gwaelodlin. Disgrifiodd Dr Hussey yn glir yr achos dros newid, un yr ydym i gyd yn cytuno â hi ac yn derbyn nad yw cynnal "status quo" yn esgus yw'r ateb i gefnogi pobl yn y dyfodol. Mae gwasanaethau'n cael eu hamlygu gan y galw cynyddol a bod disgwyl mwy o angen arloesi.

Mae mynd yn gadarnhaol tuag at ddyfodol cynaliadwy o fewn gwasanaethau yn dibynnu ar "fodelau newydd o ofal yn yr ardal integredig". Dylai'r cyhoedd ddylanwadu'n drwm ar y modelau hyn a dylai'r modelau hyn gael eu cyd-gynhyrchu i sicrhau bod yr hyn a gyflwynwn yn addas i'r pwrpas, ac ar yr un pryd yn darparu newid cyflymach.

Cefnogwyd model ar gyfer gweithio integredig agosach gan y Gronfa Gofal Integredig. Mae hyn wedi hwyluso datblygiad gwasanaethau a chymorth integredig sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. O dan y gronfa mae datblygu timau integredig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol wedi cyflawni llwyddiant yn gyson ac mae rhaglenni cyfalaf uchelgeisiol wedi sefydlu cyfleoedd tai a chymdeithasol gwell i gynnal lles pobl leol. Yr her y byddwn yn anochel yn ei wyneb wrth inni ystyried argymhellion yr Adolygiad Seneddol yw sut yr ydym yn sicrhau bod arferion da yn lleol yn cael eu cyflwyno'n genedlaethol.

Mae cyrraedd ein nodau hirdymor yn dibynnu ar gydweithio a phartneriaethau llwyddiannus. Mewn gwasanaethau i oedolion bellach yn fwy nag erioed tra byddwn yn wynebu amserau heriol gyda thrychineb, rydym yn cydnabod pa mor lwcus ydyn ni i weithio o fewn ein rolau. Mae rhoi caniatâd, ysbrydoli a chefnogi ein gweithlu i wireddu'r agenda hon yn allweddol i wasanaethau llwyddiannus yn y dyfodol.

Grwp Arweinyddiaeth Diogelu 

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Arweiniol


Arweinir gwaith ddiogelu gan Gofal Cymdeithasol Cymru a'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (NSIB).

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi datblygu’r gweithlu ar ddiogelu:
  • modiwl e-ddysgu a digwyddiadau hyfforddi at gyfer timau amlddisgyblaeth ar Orchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion
  • hyfforddiant ar gyfer adolygwyr a chadeiryddion panelau ar adolygiadau ymarfer plant ac oedolion
  • diweddariadau pellach i’r Pecyn Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan a sesiynau ‘hyfforddi’r hyfforddwr’
  • gwelliannau i’w gwefan i gynnwys dolenni at ddeunydd hyfforddiant diogelu cenedlaethol ar amrywiaeth o bynciau
  • gweithdy ar y cyd gydag ADSS Cymru, rheolwyr hyfforddiant a’r byrddau diogelu cenedlaethol a rhanbarthol er mwyn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth
  • hefyd lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru Wobrau 2018 sy’n cynnwys categori ‘Dulliau Gweithredu Effeithlon o ran Diogelu’.
Mae gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (BDAC) pump aelod, Margaret Flynn (Cadeirydd), Keith Towler, Simon Burch, Ruth Henke, Jan Pickles a Rachel Shaw.  Cyflwynodd y BDAC ei ail adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd Hydref.  Mae hyn yn gosod allan y deilliannau sy’n codi o raglen waith 2016/17 y Bwrdd Cenedlaethol ac mae hyn y cynnwys:
  • cyhoeddi adroddiad Cascade ar ddewis addysg gartref
  • comisiwn i dynnu dysgu o wahanol fathau o adolygiadau yng Nghymru
  • creu gwefan y Bwrdd Cenedlaethol
  • cyhoeddi papur o gynhadledd ar arweinyddiaeth mewn diogelu
  • cynnwys pobl gydag anableddau dysgu trwy ysgrifennu fersiwn “hawdd ei ddarllen” adroddiad blynyddol cyntaf y Bwrdd Cenedlaethol
  • cynnwys pobl â dementia a’u gofalwyr yn ymateb y Bwrdd Cenedlaethol i’r Strategaeth Dementia Cenedlaethol Drafft
  • comisiwn i adnabod dull cost-ymwybodol o gryfhau ymatebion diogelu
  • cydweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i noddi gwobrau diogelu (trafodaethau gyda chyrff eraill yn parhau)
  • rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban; a phwysleisio wrth y Gweinidogion Cymreig  (i) yr angen brys the i gyhoeddi canllawiau statudol (ii) y bwlch yn y rheoliadau o ran perchnogaeth dogfennau ynglŷn ag adolygiadau diogelu a (iii) prinder y ddarpariaeth ar gyfer plant sy’n hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl a throseddwyr ifanc
  • Mae ymrwymiad y Bwrdd Cenedlaethol i ddatblygu adnodd o achosion ac ymchwiliadau Cymreig arwyddocaol yn dal i fynd ymlaen. Cafodd addewid y Bwrdd Cenedlaethol i greu trosolwg rhagarweiniol o hyfforddiant mewn diogelu yng Nghymru ei danseilio gan ddiffyg cydymffurfiad rhai Byrddau Rhanbarthol.
Mae llawer o adroddiad y Bwrdd Cenedlaethol yn mynd i’r afael â “digonolrwydd ac effeithlonrwydd y trefniadau i ddiogelu  plant ac oedolion yng Nghymru.”  Mae’n dod â gwybodaeth o bob un o gynlluniau  ac adroddiadau blynyddol y Byrddau Rhanbarthol ynghyd. Mae’n dangos nad oes ymlyniad wedi bod wrth y canllawiau statudol a bod Byrddau Rhanbarthol unigol yn gweld creu llawer o brotocolau, teclynnau a strategaethau heb unrhyw gyfeiriad at y deunydd sy’n bodoli eisoes yng Nghymru a thu hwnt. Mewn cyfarfod gyda Chadeiryddion Byrddau Rhanbarthol i drafod adroddiad blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol cafwyd cydnabyddiaeth bod y Byrddau Rhanbarthol wedi twyllo’u hunain ac y “gallen nhw wneud yn well!”

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Diweddariad Partneriaeth Rhanbarthol: Bae'r Gorllewin

 

Ymunwch â’n Cymuned Ofalu! - Ymgyrch newydd Bae’r Gorllewin sy’n hyrwyddo manteision gyrfa fel gofalwr


Drwy gydol 2017, mae cynrychiolwyr amrywiaeth o sefydliadau ar draws rhanbarth y Bae’r Gorllewin wedi bod yn cydweithio i lunio fframwaith blaengar gyda’r nod o gynyddu proffil gwaith gofal ac annog mwy o bobl i ystyried gofalu fel gyrfa.
 
Rhan allweddol o’r fenter hon yw ‘Ymunwch â’n Cymuned Ofalu!’ - ymgyrch recriwtio sydd yn ei chamau datblygu olaf a fydd ar waith ym mis Ionawr 2018.
 
Mae’r ymgyrch yn cynnwys pobl go iawn sy’n gweithio yn y sector gofal yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, y mae ganddynt i gyd eu rhesymau unigryw eu hunain dros ddewis gofal fel gyrfa.
 
Mae Susan Cooper (Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) yn cadeirio Grŵp Llywio Datblygu Gweithlu Bae’r Gorllewin, sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith hwn. Meddai:
 
“Mae gofal cymdeithasol yn yrfa werthfawr a gwerth chweil ac yn un rydym am i bobl ymfalchïo ynddi.
Mae’r sector gofal yn tyfu ac yn datblygu’n barhaus wrth i wasanaethau ymdrechu i ddiwallu anghenion poblogaeth sy’n heneiddio a phobl â chyflyrau cymhleth sy’n byw’n hwy.
 
Mae cyllid a ddyfarnwyd i Fae’r Gorllewin drwy’r Gronfa Gofal Integredig wedi’n galluogi i ddatblygu cyfres o weithgareddau marchnata cyffrous a ddylunnir i gynyddu ymwybyddiaeth o ofalu fel gyrfa bosib, a chwalu unrhyw fythau neu gamsyniadau o ran yr hyn y gallai rôl fel gofalwr ei chynnwys”.
 
Yn y pen draw, nod yr ymgyrch yw pwysleisio y gall gwaith gofal fod yn amrywiol ac y gallai fod yn addas i amrywiaeth eang o unigolion. Nid oes angen cymwysterau na phrofiad blaenorol o reidrwydd. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw agwedd ofalgar a thosturiol ac awydd i gefnogi pobl eraill i fyw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain. Ceir mwy o wybodaeth drwy fynd i Wefan Bae'r Gorllewin. Darllen mwy o wybodaeth


Dewis y Gofal Cywir
 

  Ym mis Medi 2017 gwelwyd cyhoeddiad cyfeiriadur newydd o wasanaethau gofal a chymorth ar gyfer rhanbarth y Bae’r Gorllewin.
 
Mae Cyfeiriadur Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe 2017/18 yn cynnig arweiniad cynhwysfawr i ddewis gwasanaethau gofal a thalu amdanynt. Mae’n cynnwys rhestr hir o ddarparwyr preswyl a gofal cartref, gwasanaethau arbenigol a chysylltiadau defnyddiol i helpu oedolion ag anghenion gofal a chefnogaeth i wneud y dewisiadau cywir iddynt hwy.
 
Lluniwyd y cyfeiriadur gan Care Choices gyda mewnbwn gan AGGCC, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Cyngor Abertawe.
Mae'n darparu amlinelliad cynhwysfawr o wasanaethau gofal sydd ar gael i ddinasyddion (hunan-arianwyr a chleientiaid y Cyngor) a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â cyngor ar gynnal asesiadau a chael mynediad i wasanaethau cymorth yn y gymuned.

Dyma'r bumed flwyddyn y mae Bae’r Gorllewin wedi cymryd rhan yn y fenter, gyda miloedd o gopïau printiedig yn cael eu dosbarthu i adeiladau cyhoeddus, ysbytai, Pwyntiau Mynediad Cyffredin a swyddfeydd sefydliadau'r Trydydd Sector. Lawrlwytho'r e-fersiwn.

Diweddariad Partneriaeth Rhanbarthol: Caerdydd a Bro Morgannwg

 

Cynnyddu ein blaenoriaethau trwy cyd-weithrediad


Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ein BPRh wedi gwneud gwaith da ar lawer o'n blaenoriaethau:

Cynllun Ardal Anghenion Gofal a Chymorth – mae ein Cynllun Ardal Drafft a’r Cynllun Gwaith bellach ar gyfnod ymgynghori.  Rydym yn gweithio’n agos â’n cydweithwyr yn y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus i alinio blaenoriaethau a dulliau cyflawni i sicrhau ein bod yn mynd ar ôl yr holl anghenion a adnabuwyd yn Asesiad Anghenion y Boblogaeth.

Datganiad Sefyllfa’r Farchnad ar gyfer Gwasanaethau Gofal a Chymorth i Bobl Hŷn – yn dilyn gweithdy rhanddeiliaid ym mis Gorffennaf, rydym wedi cwblhau ein Datganiad Sefyllfa'r Farchnad. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan ein BPRh ar 13 Tachwedd, a bydd nawr yn cael ei ystyried gan brosesau gwneud penderfyniad partneriaid statudol.

Fforwm Gwerth Cymdeithasol – rydym wedi bod yn falch o benodi nifer o 'Bencampwyr' Gwerth Cymdeithasol i gefnogi gwaith ein partneriaeth.  Cynhaliwyd ein digwyddiad cyntaf ar ‘Ddeall Caffael i Gyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus Arloesol’ oedd yn cynnwys nifer o gomisiynwyr a darparwyr ledled y sectorau statudol a'r trydydd sector.

Gwasanaethau Ataliol – Fel un o Sesiynau Datblygu BPRh, cynhaliom weithdy ar wasanaethau ataliol ym mis Medi.  Bydd y camau a adnabyddir yn rhan o raglen waith y BPRh.

Strategaeth Ddementia – Mae'r Bartneriaeth wedi ymgynghori ar Strategaeth Ddrafft 10 mlynedd newydd dros yr haf ac mae fersiwn terfynol yn cael ei gwblhau er mwyn i bartneriaid ei gymeradwyo.  Bydd y Strategaeth hon yn cefnogi cyflawni uchelgais y BPRh i ddod yn rhanbarth dementia-gyfeillgar.

Cronfa Gofal Integredig – Yn rhan o’n mentrau CGI rydym wedi bod yn falch iawn o gefnogi’r GoodGym cyntaf yng Nghymru sydd â'r nod o helpu pobl i 'gadw'n heini drwy wneud pethau da'.  Mae’r project yn helpu pobl hŷn ynysig ac yn ymgymryd â ‘bwriadau' cymunedol ac mae eisoes yn cyflawni deilliannau positif i bobl leol a sefydliadau. 

I ddarganfod mwy am waith BPRh Caerdydd a’r Fro, e-bostiwch rachel.jones41@wales.nhs.uk Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, ewch i'n wefan neu dilynwch ni ar Twitter.

Diweddariad Partneriaeth Rhanbarthol: Gorllewin Cymru


Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yng Ngorllewin Cymru


Mae darparu gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth effeithiol fel rhan o fframwaith atal ehangach yn un o'r pum blaenoriaeth strategol a fabwysiadwyd gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Mae'r gwasanaethau'n datblygu'n gyflym ledled y rhanbarth ac yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol. Mae dull cydweithredol ac arloesol yn sail i'r holl ddatblygiadau. Mae gan bob un o'r Awdurdodau Lleol ddull unigryw sy'n adeiladu ar asedau lleol a natur unigryw. Bydd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn fuan yn diweddaru'r sefyllfa ranbarthol ac yn gwerthuso'r gwahanol ddulliau o ran eu cyfraniad at y dyheadau allweddol gyda'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yng Ngheredigion, bydd y Cyngor Sir yn lansio Porth Y Gymuned ym mis Ebrill 2018 - hwb dwyieithog i bob oed gyda mynediad at staff hyfforddedig a all ddarparu ymateb wedi'i gyd-gynhyrchu a'i deilwra, yn seiliedig ar 'yr hyn sy'n bwysig' i'r person ac sy'n 'nes at y cartref ', a’i ddarparu gan fudiadau trydydd sector a chymunedol. Bydd hyn yn ategu at y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a ddarperir gan CLIC (Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor), gan gysylltu â Phorth y Gymuned a Phorth Gofal - canolbwynt cydweithredol o weithwyr proffesiynol yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Dewis Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn weithredol ers 12 mis. Mae'r ganolfan alwadau gofal cymdeithasol ymroddedig wedi cwblhau 8,500 o asesiadau cymesur ers ei sefydlu. Derbyniodd y gwasanaeth gydnabyddiaeth am hyrwyddo'r Gymraeg ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy gyrraedd rownd derfynol Gwobr 'Mwy Na Geiriau a'r Cynnig Rhagweithiol'. Mae Dewis Sir Gâr hefyd wedi bod ar restr fer Gwobr Sector Cyhoeddus y Guardian igydnabod y strategaeth dysgu a datblygu ardderchog sydd yn ei lle ar gyfer staff rheng flaen sy'n cyflwyno Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

Mae ail-gynllunio'r gwasanaeth cydweithredol yn Sir Benfro wedi arwain at welliannau mewn amseroedd aros a gwasanaeth cwsmeriaid yn gyffredinol. Cafwyd cydnabyddiaeth genedlaethol o'r gwelliannau hyn gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain trwy eu Gwobr 'Tîm y Flwyddyn'. Mae'r Tîm Cyswllt Cyntaf hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cronicl Llywodraeth Leol sydd ar ddigwydd. Mae Cysylltwyr Cymunedol y 3ydd sector, y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol a'r Hwb Gofal Cymdeithasol i oedolion yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y Sir. O fewn yr Awdurdod Lleol, mae'r ymholiadau sylfaenol a ddaw i law yn rheolaidd wedi'u symud i'r pwynt cyswllt cyntaf, gan ddefnyddio cyfuniad o ddatblygu’r system TG a hyfforddiant pwrpasol. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio mewn cymunedau a chynnal sgyrsiau arweiniol i ganfod 'yr hyn sy'n bwysig' a chefnogi pobl i wneud cysylltiadau a chael cymorth i wella eu lles yn eu hardaloedd lleol. Darganfyddwch mwy am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Dwyrain Cymru.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: Cwm Taf


Gweithio i daclo recriwtio a chadw


Mae recriwtio a chadw wedi cael ei gydnabod fel risg i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghwm Taf ac mae'r Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP) wedi nodi bod angen grŵp tasg a gorffen aml-asiantaeth gan gynnwys awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr i sicrhau'r gweithlu cryf a sefydlog mae arnom angen.

Gwyddom fod angen inni ddenu, hyfforddi a chadw mwy o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gwrdd â gofynion cyfredol a rhagfynegedig am ofal a chefnogaeth, ond mae hyn yn dibynnu ar ein dealltwriaeth o beth yw'r rhwystrau a'r cyfleoedd, a sicrhau ein bod yn cydweithio mewn partneriaeth i’w ddatrys.

Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod hon yn her 'system gyfan' ac nid rhywbeth y gellir ei datrys yn hawdd trwy weithio ar ein pen ei hun.

Trwy gefnogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru, mae SCWDP Cwm Taf wedi comisiynu Practice Solutions i'n helpu i gasglu tystiolaeth leol a chenedlaethol am yr her i recriwtio a chadw yn y rhanbarth ac i'n cefnogi ni wrth lunio cynllun gweithredu i gydlynu ein hymdrechion i dod o hyd i atebion lleol.

Ein bwriad yw ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid o sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd ac annibynnol, undebau llafur, ysgolion, colegau a defnyddwyr gwasanaethau yn y darn hwn o waith - wedi'i gydlynu trwy SCWDP.

I ddechrau, bydd Practice Solutions yn adolygu'r dystiolaeth a gasglwyd eisoes yn lleol ac yn genedlaethol, yna ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol â chymysgedd o gyfweliadau wyneb wrth wyneb ac arolwg electronig.

Bydd y canlyniad casglu tystiolaeth, cyfweliadau a'r arolwg yn cael ei gyflwyno i weithdy Cynllunio Cam Cyflym lle byddwn yn cefnogi partneriaid i nodi'r materion allweddol sy'n eu wynebu yn lleol (yn gyffredinol ac yn ôl sector) a chynorthwyo i nodi camau gweithredu i’w daclo.

Yn dilyn y gweithdy, byddwn yn cynhyrcu cynllun gweithredu i'w ddefnyddio yn ystod 2018/19 ac ar y pwynt hwnnw bydd gennym fwy o wybodaeth i'w rannu os oes gan bobl ddiddordeb i drafod ein profiad.

Ein bwriad yw y bydd canlyniad y prosiect hwn yn cael ei lywio gan Weithrediaeth SCWDP, ond bydd hefyd yn dod yn nodwedd allweddol o'r Fforymau Darparwyr rhanbarthol.
 

Rhaglenni Gwaith y Grant Cyflwyno Trawsnewid 


Mae ADSS Cymru unwaith eto wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru am waith i wella canlyniadau trwy weithredu deddfwriaeth newydd - (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn bennaf).

Cymeradwywyd yr arian ym mis Awst. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod 6 amcan wedi'u lledaenu dros ddwy ffrwd waith gyda chanlyniadau penodol i'w cyflwyno erbyn diwedd Mawrth 2018.

Mae ffrwd waith Cyflawni Gwasanaethau Mwy Effeithiol yn canolbwyntio ar:
  • llunio nodyn cyfarwyddyd i gynorthwyo gweithrediad a helpu i sicrhau cysondeb cenedlaethol wrth weithredu’r meini prawf cymhwysedd newydd dan Ran 4 deddf 2014
  • llunio datganiad o sefyllfa genedlaethol, camau nesaf a blaenoriaethau i helpu i gydlynu’r ystod o waith sy’n ymateb i heriau yn y sectorau cartref gofal a gofal yn y cartref  
  • llunio map cynnydd a chanfod yr heriau allweddol i sicrhau bod “Mwy na Geiriau” yn effeithiol o ran sbarduno’r iaith o ddewis
Mae’r ffrwd waith Ymyrryd ac Atal yn Gynnar yn canolbwyntio ar:
  • weithio gyda’r trydydd sector i lunio cynllun gweithredu i adeiladu gwydnwch cymunedol, felly’n lleihau’r angen am wasanaethau strategol     
  • llunio safonau perfformio cenedlaethol i gefnogi datblygu gwasanaethau adsefydlu ac ail-alluogi gan gynnwys staff ar draws y proffesiwn iechyd a gofal cymdeithasol
  • datblygu cyfarwyddyd gweithredol i helpu i lywio anghydfodau amlwg rhwng Deddf 2014 a deddfwriaeth arall yn cynnwys Mesur Iechyd Meddwl 2010 a’r ddeddfwriaeth tai mewn perthynas â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.      
Byddem yn croesawu gwybodaeth am enghreifftiau o ddulliau atal ac ymyrraeth gynnar sy'n gweithio'n dda.
Y dull o weithio yw cynnwys cyfranogwyr allweddol mewn darnau byr o waith â ffocws, ac i fapio, adeiladu ar a, lle bo angen, cydlynu, ond osgoi dyblygu gwaith sy'n digwydd mewn mannau eraill.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a:
Ffrwd Waith Cyflawni Gwasanaethau Mwy Effeithiol:
vicki.allen@adsscymru.org.uk / 07887 891208
Ffrwd Waith Ymyrryd ac Atal yn Gynnar:
nicki.harrison@adsscymru.org.uk / 07506 693315
Twitter
Website
Hawlfraint © 2017 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru, Cedwir pob hawl.

Ein cyfeiriad ebost yw:
contact@adsscymru.org.uk

Eisiau newid sut rydych chi'n derbyn y negeseuon e-bost hyn?
Gallwch diweddaru'ch dewisiadau neu ddad-danysgrifio o'r rhestr hon.