Copy
Click through to English version                                                                         RHIFYN 18    |  Mai 2019

Croeso i e-Gylchlythyr diweddaraf ADSS Cymru


Rydyn ni'n crynhoi'r cynnydd diweddaraf ar waith a wneir gan arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu'r gweithlu a gwella'r ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer pobol sy'n derbyn gofal,
Yn y rhifyn hwn:

Croesawu Llywydd newydd ADSS Cymru
Diweddariad ar System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
- Sut y gallai Cymru ddod yn arloeswr o ran ymchwil gofal cymdeithasol
- Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan (AWASH)
- Newyddion gan Grŵp Arweinyddiaeth y Gweithlu
- Diweddariad ynghylch Rhaglenni Gwaith y Grant Cyflawni Trawsnewid am 2018-19
- Arddangos y Gwahaniaeth - Bae'r Gorllewin yn arddangos llwyddiannau partneriaid y Trydydd Sector

Croesawu Llywydd newydd ADSS Cymru


Ym mis Ebrill, croesaom ein Llywydd ADSS Cymru newydd, Susan Cooper, sy'n Cyfarwyddwr Corfforaethol Llesiant yng Nghyngor Bwystref Sirol Pen-y-Bant ar Ogwr.

Yn y rhifyn diweddaraf hwn o Dan Sylw, mae Susan yn trafod ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod fel Llywydd. Dilynir hyn gan yr Arlywydd yn y gorffennol, crynodeb Jenny Williams o'i flwyddyn yn y rôl.

Susan Cooper

Annwyl Gydweithwyr,
 
…ac felly mae fy mlwyddyn fel Llywydd ADSS Cymru yn dechrau!
 
Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i Jenny Williams sydd wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac sydd wedi bod yn arweinydd gwych ar gyfer y sefydliad; bydd yn anodd iawn llenwi ei hesgidiau. Mae Jenny wedi llwyddo i ddatblygu cysylltiadau cadarn â nifer o gyrff sector cyhoeddus eraill yn ogystal â bod yn awyddus i ymgysylltu â chymaint o gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phenaethiaid gwasanaeth â phosibl er mwyn cryfhau ein sefydliad. Fy nod yw parhau i weithredu yn y dull cynhwysol hwn oherwydd po fwyaf ohonom sy'n dod ynghyd ac sy'n barod i gynrychioli’r agweddau gwahanol ar ofal cymdeithasol y cryfaf y byddwn. Mae seminar diweddar y gwanwyn wedi rhoi dechrau rhagorol i ni ar gyfer y flwyddyn nesaf ac rydym wedi cytuno i symud ymlaen o Fwrdd Llywodraethu lle roedd cynrychiolwyr cyfarwyddwyr i gael model sy'n cynnwys pedwar cyfarfod arweinyddiaeth yn ystod y flwyddyn lle mae holl gyfarwyddwyr a chadeiryddion Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan a Phenaethiaid Gwasanaethau i Blant Cymru Gyfan yn mynychu. Mae'r un gyntaf o'r rhain wedi'i drefnu ar gyfer 21 Mehefin a bydd pob cyfarwyddwr a chadeirydd yn cael eu hannog i fod yn bresennol ac i fynegi meysydd penodol o ddiddordeb neu arbenigedd y maent yn teimlo eu bod yn gallu cynrychioli ADSS Cymru.
 
Fel arfer, bydd nifer o feysydd gwahanol y bydd gofyn i ADSS Cymru eu cwmpasu eleni ac rydym eisoes yn gwybod mai dau faes allweddol ar gyfer y Dirprwy Weinidog yw Grant Byw'n Annibynnol Cymru a Phlant sy'n Derbyn Gofal. Mae ADSS Cymru wedi bod yn rhagweithiol, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wrth gwrdd â Llywodraeth Cymru i helpu i lunio'r ymateb ar gyfer y Gweinidog a'r rhaglen waith ddilynol. Mae rhaglen waith y Grant Cyflawni Trawsnewid wedi'i chytuno gyda Llywodraeth Cymru a cheir mwy o wybodaeth am hyn mewn rhan arall o'r cylchlythyr.
 
Felly, bydd digon i wneud, nid yn unig ar fy nghyfer i fel y Llywydd ond ar gyfer bob un ohonom, rwy'n gwybod y byddaf yn sicr yn croesawu'ch gefnogaeth a chefnogaeth cydweithwyr ar draws y sector! Rwy'n ymrwymo fy hun i gyfathrebu mewn modd agored a rheolaidd a fy nhasg bwysicaf ar y foment yw #dysgusutidrydaru# 
 
Gobeithiaf eich gweld chi i gyd yn fuan! Diolch.
Jenny Williams

Mae agosáu at ddiwedd fy mlwyddyn fel llywydd wedi bod yn amser i fyfyrio a meddwl am y rôl werthfawr sydd gan ADSS Cymru i'w chwarae. Cefais fy mhenodi fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy Dros Dro yn 2012, yn dilyn gyrfa mewn gwasanaethau plant yn bennaf ac efallai nad oeddwn yn hollol sicr o'r hyn yr oedd gofyn i mi ei wneud! Yn 2014 cefais fy mhenodi'n barhaol ac roeddwn yn ddigon ffodus i gofrestru ar y Rhaglen Cyfarwyddwyr 'newydd'. Roedd yn gyfle gwych i greu cysylltiadau proffesiynol cadarn gyda'r cyfarwyddwyr 'newydd' eraill oedd yn yr un sefyllfa â mi ac rwy'n ddiolchgar fy mod wedi cael adnabod cydweithiwr gwerthfawr - Mike Nicholson a fu farw’r llynedd. Gwnaethom ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd ac mae gennyf atgofion melys iawn o'r hanesion y byddai Mike yn eu hadrodd am ei helyntion dyddiol, ond roedd, fel y gwyddom, yn arweinydd angerddol ac ymroddedig a oedd yn canolbwyntio ar y cleient ac ar wneud gwahaniaeth. Yn ystod y cyfnod hwn dechreuais ymwneud ag ADSS Cymru gan arwain ar ychydig o ffrydiau gwaith, a dod i adnabod y sefydliad a'r budd y mae'n ei gynnig nid yn unig i'r gymuned gofal cymdeithasol ond hefyd o safbwynt personol a phroffesiynol. Roeddwn wrth fy modd felly i gael fy enwebu fel dirprwy gadeirydd yn ystod 18/19 i gefnogi Dave Street fel y llywydd ar y pryd ac i gael cyfle pellach i ddylanwadu ar yr agenda gofal cymdeithasol ar lwyfan ehangach a mwy cyhoeddus.

Mae fy mlwyddyn fel llywydd wedi bod yn llawn ac yn amrywiol, gan ddechrau gydag un o'r problemau gofal mwyaf argyfyngus a welwyd yng Nghymru pan welsom ddarparwr gofal yn y cartref mawr yn wynebu trafferthion, ond gwnaethom weithio'n dda gyda'n gilydd fel tîm cenedlaethol a chyda phartneriaid trwy gydol y cyfnod hwn. Yna, cefais gyfle i gynrychioli Cymru ac ADSS Cymru yn y Gynhadledd Gwasanaethau Cymdeithasol Ewropeaidd Genedlaethol a oedd yn gyfle sydd ond yn dod unwaith mewn oes, a dysgais lawer am fodelau gofal amgen, sydd wedi'u gwreiddio mewn cymunedau ac yn y trydydd sector mewn gwledydd Ewropeaidd. Gyda chymorth amhrisiadwy'r uned fusnes rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i gyhoeddi nifer o ddogfennau allweddol, ymateb i lawer o ymgynghoriadau allweddol a cheisio cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd a digwyddiadau amlwg trwy gydol y flwyddyn. Uchafbwynt pellach oedd ein Cynhadledd Flynyddol ar ei newydd wedd ym mis Medi, a chael cyfle i gadeirio a chynnal nifer o siaradwyr a chyflwyniadau ardderchog dros y ddau ddiwrnod gyda ffocws go iawn ar arloesedd ac uchelgais. Rwyf yn wir wedi gwerthfawrogi creu cysylltiadau gyda’n holl bartneriaid ac rwy'n diolch i'r ddwy ddirprwy gadeirydd sydd wedi fy nghefnogi eleni, Nicola a Sue, yn ogystal â'r holl benaethiaid gwasanaethau a chyfarwyddwyr yng Nghymru gan mai un o fy nodau oedd sicrhau ein bod yn sefydliad cynhwysol ar gyfer ein holl aelodau.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi bod yn delio â Brexit (!) ymysg pethau eraill, ac yn ymwneud â chyfarwyddebau polisi adnewyddedig ar ôl i ni weld newid o ran ein Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwnaethom brofi tristwch hefyd yn dilyn marwolaeth cydweithiwr gwerthfawr arall, Stuart Greenwell, ac unwaith yn rhagor, dysgais lawer ganddo ynghylch cadw pobl wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud a chael yr hyder ynom ni ein hunain i ragori. Hoffwn ddymuno blwyddyn lwyddiannus i Sue a byddaf yn ei chefnogi fel y llywydd sy'n gadael gyda'r blaenoriaethau a'r heriau fydd yn wynebu gofal cymdeithasol yn 19-20 a thu hwnt.

Diweddariad ar System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)

Allan Jones

 
Hyd yn hyn, mae WCCIS yn cynyddu gyda mwy nag 11,000 o ddefnyddwyr ar draws 13 o sefydliadau byw. Mae defnyddwyr mewn nifer o fyrddau iechyd yn cael mynediad i'r system yn barod fel rhan o dimau iechyd a gofal cymunedol integredig ac mae'r defnyddwyr hyn yn gweld y buddion o allu rhannu gwybodaeth â chydweithwyr mewn gofal cymdeithasol yn barod.
 
Mae 17 o gytundebau ar waith bellach, gyda chynghorau Wrecsam, Abertawe a Chonwy yn ymgymryd â gweithgaredd gweithredu er mwyn mynd yn fyw yn 2019/20. Mae Abertawe a Chonwy yn cysylltu er mwyn cefnogi eu gweithgaredd fel y defnyddwyr cyntaf i symud o system Paris i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru. Mae cynllun diwygiedig Wrecsam a llofnod cytundeb Conwy yn rhoi hwb hefyd i weithgaredd rhanbarthol gogledd Cymru, ac mae trafodaethau ar waith yn Sir y Fflint ynghylch sut y gall System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru gefnogi eu gwasanaethau ariannol, ac mae cynllunio adnewyddedig ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w gyflwyno i nyrsys ardal.
 
Mae Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, partneriaid rhanbarthol newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn defnyddio System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn barod ac mae partner Cyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithio trwy opsiynau gweithredu posibl er mwyn paratoi i ddyfarnu contract.
 
Mae'r dull integredig rhanbarthol yng Ngwent yn cael ei gryfhau wrth i’r broses weithredu fynd rhagddi ar gyfer y cyntaf o bum cam gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Byddant yn mynd yn fyw gyda fersiwn o'r system sydd wedi'i diweddaru, sy'n cynnwys swyddogaethau ychwanegol sylweddol i gefnogi'r camau nesaf tuag at weithio mewn modd mwy integredig ledled Cymru gyfan, gan gynnwys derbyn atgyfeiriadau electronig gan feddygon teulu a gwybodaeth rhyddhau electronig oddi wrth ofal eilaidd. Mae trafodaethau cwmpas a chytundeb ar lefel uwch gyda Sir Fynwy.
 
Mae Powys yn parhau i gynllunio cyflwyno System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru mewn modd estynedig tra bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ceisio cefnogi gweithio integredig yng Ngheredigion trwy gynllunio i ddefnyddio nifer fawr o nyrsys cymunedol erbyn diwedd 2020.
 
Mae Cyfarwyddwr Rhaglen newydd, Kathy Mason, wedi ei phenodi i arwain y rhaglen weithredu genedlaethol.  Mae tîm y rhaglen yn gweithio gyda'r cyflenwr CareWorks ar gynllun cyflwyno ar gyfer y system a'r ap symudol sy'n cyd-fynd â'r system, a fydd yn cynnwys swyddogaethau ychwanegol sylweddol dros y misoedd nesaf er mwyn cefnogi'r camau nesaf tuag at ffordd fwy integredig o weithio ledled Cymru gyfan.  Fel sy'n wir am gyflwyno unrhyw swyddogaeth newydd i system, mae cyflwyno'r diweddariad hwn yn gofyn am waith profi a chynllunio gofalus er mwyn sicrhau nad yw'r swyddogaethau presennol a diogelwch y cleient/claf yn cael eu peryglu gan unrhyw un o'r newidiadau.  Yn ogystal, mae'r rhaglen yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i gefnogi mentrau cenedlaethol megis gofynion adrodd newydd a dull safonol ar gyfer iechyd meddwl a diogelu.
 
Mae Cynllun Cymru Iachach 2018, sy'n nodi gweledigaeth hirdymor ynghylch 'dull system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol', yn gosod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru fel galluogydd allweddol ar gyfer y newid trawsnewidiol hwn. Yn unol â hyn, mae cyflwyniad amserol y system i'r awdurdodau lleol a byrddau iechyd sy'n weddill ledled Cymru yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn uchelgeisiol ac yn gymhleth, gan ddod â systemau craidd nifer fawr o sefydliadau at ei gilydd yn ogystal â'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethau diwylliannol a threfniadol rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Sut y gallai Cymru ddod yn arloeswr o ran ymchwil gofal cymdeithasol

Dr Lisa Trigg

Mae gan Gymru'r cyfle i wneud gwaith ymchwil gofal cymdeithasol o'r radd flaenaf - ond mae angen eich help chi arnom ni. Roedd hwn yn destun gweithdy yn Seminar diweddar y Gwanwyn ADSS Cymru a arweiniwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL Databank) a Llywodraeth Cymru.

Canolbwyntiodd y sesiwn ar gynhyrchu cwestiynau ymchwil gofal cymdeithasol ac roedd cyfle i ddefnyddio dau adnodd nas defnyddiwyd o'r blaen, Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Bydd llawer ohonoch eisoes yn gyfarwydd â gwaith Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi ymchwil sy’n ymwneud â’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru – cewch hyd i fwy o wybodaeth yma.

Ond nid oes llawer o bobl yng Nghymru yn sylweddoli bod gennym adnodd arall y mae ymchwilwyr gofal cymdeithasol eraill ledled y DU yn eiddigeddus ohono, ac sy'n cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr ledled y byd.

Y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yw hwn, ac fe'i cynhelir ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r banc data yn cadw gwybodaeth ddienw am unigolion yng Nghymru ynghylch gwasanaethau gan gynnwys iechyd, addysg a thai. Mae'n golygu y gall ymchwilwyr creu cysylltiadau rhwng ffynonellau data fel y gall gwybodaeth y credir ei bod yn ymwneud â’r un unigolyn, teulu, lle neu ddigwyddiad gael ei chysylltu.  Un enghraifft yw prosiect sydd wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin wnaeth ganfod bod buddsoddi mewn gwelliannau penodol yn y cartref ar gyfer pobl dros 60 oed yn gallu lleihau derbyniadau brys i'r ysbyty - roedd ond modd gwneud hyn drwy gysylltu data am dai ac iechyd. Mae prosiect arall sydd ar waith ar hyn o bryd yn edrych ar sut y gall gwneud addasiadau a newidiadau i'r cartref ledled Cymru helpu i wella bywydau perchnogion cartrefi hŷn.

Mae'r banc data mor dda fel bod gennym sefyllfa eithaf rhyfedd lle mae ymchwilwyr y tu allan i Gymru yn defnyddio ein banc data i ymchwilio i wasanaethau a chanlyniadau ar gyfer eu gwledydd eu hunain. Fodd bynnag, mae ein defnydd o'r banc data yng Nghymru yn fwy cyfyngedig nag y gallai fod o ran gwasanaethau cymdeithasol, am ddau brif reswm:

1. Mae defnyddio'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw wedi bod yn ddrud yn y gorffennol

Nid yw'n syndod, ond mae gan y banc data safonau uchel iawn o ran pwy sy'n cael defnyddio'r banc data a'r hyn y caniateir iddynt ei ddefnyddio ar ei gyfer. Golyga hyn ei fod wedi bod yn ymarfer drud i sefydlu prosiectau ymchwil sy'n defnyddio'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw ar gyfer ein hymchwil ein hunain. Er mwyn helpu â hyn, mae Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (un o brif gyllidwyr ymchwil y DU) wedi ymrwymo'n ddiweddar i fuddsoddiad ar y cyd gwerth £6 miliwn dros gyfnod o 30 mis, i ariannu ymchwil sy'n bwysig ar gyfer polisi yng Nghymru. Gallwch ddarllen mwy am y buddsoddiad yma. Mae hwn yn rhoi cyfle gwych i ni wneud ymchwil sy'n berthnasol o ran anghenion awdurdodau lleol.

2. Mae gan y banc data gyfoeth o ddata – ond nid am ofal cymdeithasol

Mae’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn arweinydd byd-eang oherwydd y data y mae’n ei gyfuno o ffynonellau gwahanol yng Nghymru, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty, data meddyg teulu, tai ac addysg. Yn ogystal, mae'r banc data mewn trafodaethau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEM ynghylch ymgorffori eu data. Yr hyn nad oes ganddo yw’r wybodaeth gan awdurdodau lleol i'n galluogi i archwilio cwestiynau ynghylch effaith ac anghenion gofal cymdeithasol.

Beth allwn ni ei wneud er mwyn cychwyn ar yr ymchwil hon?

Y cam cyntaf yw penderfynu ar y blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. I gychwyn y broses hon, nododd sesiwn Seminar y Gwanwyn gwestiynau a thestunau ymchwil pwysig ar gyfer gofal cymdeithasol. Penderfynodd grwpiau bychan, o dan arweiniad hwyluswyr o'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, Llywodraeth Cymru, Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ar 19 o gwestiynau a meysydd pwnc ymchwil.

Mae'r tîm wnaeth arwain y sesiwn yn adolygu'r cwestiynau hyn a sut y gellir cefnogi ymchwil ar eu cyfer. Mae Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn gallu cefnogi ymchwil i'r cwestiynau ymchwil hyn - bydd y ffocws cychwynnol ar y pynciau hynny y rhoddir y flaenoriaeth uchaf iddynt yn y sesiwn.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

I wneud y mwyaf o gyfleoedd cysylltu’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, bydd angen i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phenaethiaid gwasanaethau gefnogi'r ymchwil gyda data am ofal cymdeithasol. I wneud y mwyaf o gyfleoedd cysylltu’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, bydd angen i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phenaethiaid gwasanaethau gefnogi'r ymchwil gyda data am ofal cymdeithasol.

Yn ogystal, bydd angen eich cefnogaeth ar Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu cwestiynau a phynciau ymchwil ar gyfer galwadau am grantiau sydd ar y gweill neu i ddatblygu ceisiadau am gyllid ymchwil.

Nid yw'n dod i ben yn y fan hon...

Gall rhai o'r cwestiynau a gafwyd gan bobl gael eu hateb heb ddadansoddiad cymhleth o ddata neu astudiaethau newydd gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru neu gan y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw gan fod ymchwil eisoes yn bodoli. Yr yr achosion hyn, bydd y tîm yn edrych ar ganfod ffyrdd o rannu'r ymchwil hon gyda chi.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â lisa.trigg@socialcare.wales

Adolygu gwaith Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan (AWASH) gan ein cadeirydd sy'n ymadael

Alwyn Jones, Cadeirydd AWASH (hyd at Ebrill 2019)


Wrth i mi gwblhau fy nhymor fel cadeirydd y Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan, rwy'n edrych nôl dros y ddwy flynedd diwethaf gan fyfyrio ynghylch yr amserau prysur rydym oll wedi'u profi. Mae cyflawni’r rôl wedi bod yn bleserus iawn ar adegau, ac yn rhwystredig ar adegau eraill, ond ar y cyfan rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle hwn.
 
Yn ystod cyfnod fy swydd mae llawer o faterion heriol wedi, ac yn parhau i gael eu dwyn i sylw’r Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion er mwyn iddynt eu hystyried a rhoi mewnbwn iddynt. Credaf fod y rheini sydd wedi cael y pleser neu anffawd o fynychu ein cyfarfodydd (yn dibynnu ar y lefel o her a brofwyd) wedi derbyn mewnbwn cadarnhaol ar y cyfan, ac er bod adegau pan nad ydym yn cytuno â rhai o'r ffyrdd ymlaen, credaf ein bod yn gwneud ein gorau i gynorthwyo.
 
Yn ystod 2018 gwnaethom weithio gyda Clare Thomas a Thîm Perfformiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu mesurau perfformiad allai fod o werth i fesur ac asesu ein llwyddiant yn y dyfodol. Mae hwn yn parhau i fod yn faes heriol i'w gael yn gywir gan sicrhau ein bod yn diffinio'r mewnbynnau a'r allbynnau hynny y mae angen i ni eu cyfrif, heb golli ffocws ar ganlyniadau rydym yn cefnogi pobl i'w cyflawni yn eu bywydau bob dydd ac wrth ddiogelu eu lles pennaf. Yn dilyn dechreuad tymhestlog credwn fod ein mewnbwn wedi cefnogi cynnydd.
 
Mae'r cynnydd o ran Grant Byw'n Annibynnol Cymru wedi bod yn llawn gofidiau yn ystod fy nwy flynedd fel cadeirydd i ddweud y lleiaf.  Dros y ddwy flynedd rydym wedi darparu cynrychiolwyr ar sail barhaus i gefnogi'r gwaith o ddod â Grant Byw'n Annibynnol Cymru o fewn gwaith comisiynu awdurdodau lleol ac rydym yn ddiolchgar i’n staff a’r rheini ohonom a wnaeth dreulio amser yn gweithio yn y maes hwn. Mae datblygiadau diweddar a'r potensial ar gyfer ailddefnyddio cynllun asesu cyfochrog, er ei fod yn rhwystredig, yn rhywbeth y byddwn yn dyfalbarhau yn ei gylch i sicrhau chwarae teg ar gyfer yr holl bobl sy'n derbyn cymorth.
 
Yn ychwanegol i'r meysydd gwaith hyn rydym wedi cyfrannu at ddatblygiad System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru a'i photensial ar gyfer y dyfodol; eglurder gwell o ran y gwaith darparu a llywodraethu sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau; gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru wrth gefnogi datblygiad ein gweithlu ac i'w gefnogi hefyd i gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth; Archwiliadau Cronfa Gofal Integredig amrywiol; llunio gwaith arolygu presennol AGC a chyfrannu at ddatblygu meysydd polisi cenedlaethol ar draws iechyd meddwl a meysydd eraill.
 
Rwy'n dymuno'r gorau i Gill Pratlett wrth iddi gychwyn ar ei Chadeiryddiaeth ac rwy'n gwybod y bydd yn gwneud gwaith ardderchog. Mae strwythur y Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan yn darparu cyfle gwerthfawr i bob un ohonom gymryd rhan mewn rhaglenni gwaith cenedlaethol ac mae'n ein galluogi i dderbyn cymorth gan gydweithwyr ac i fod yn gwbl ymwybodol bod yr heriau rydym yn eu profi yn aml yn gyffredin ar draws awdurdodau.
 
Diolch am eich holl gefnogaeth yn ystod fy nghyfnod fel cadeirydd
A

Newyddion gan Grŵp Arweinyddiaeth y Gweithlu

Rebecca Jones

Goblygiadau Brexit ar y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant

Yn ddiweddar comisiynodd Llywodraeth Cymru arolwg o ddarparwyr gofal cymdeithasol a gofal plant cofrestredig.

Amcangyfrifir bod 6.4% o staff mewn lleoliadau gofal cymdeithasol cofrestredig a 4.5% o staff mewn gwasanaethau gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn ddinasyddion UE nad ydynt o'r DU. Mae hyn yn cyfateb i tua 2,060 i 3,730 o weithwyr gofal cymdeithasol, a rhwng tua 410 a 1,100 o weithwyr gofal plant.

Mae recriwtio yn her o fewn gofal cymdeithasol a gofal plant. Dywedodd 58% o ymatebwyr gofal cymdeithasol cofrestredig a 47% o ymatebwyr gofal plant eu bod yn ei chael yn anodd recriwtio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

O edrych arno yn erbyn y cyd-destun ehangach o heriau staffio yn y sectorau cymdeithasol a gofal plant, mae'n bosib gall effaith negyddol gan Brexit o ran hawliau neu dueddiad gwladolion nad ydynt o'r DU i aros yn y DU gwaethygu'r heriau recriwtio presennol i'r sectorau.

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma:
https://llyw.cymru/effaith-brexit-ar-y-gweithlu-gofal-cymdeithasol-gofal-plant-0



Gofal Cymdeithasol Cymru: Ymgyrch Atyniad a Recriwtio

Lansiwyd yr ymgyrch ar 5ed Mawrth 2019 ledled Cymru ac fe'i cyflwynwyd trwy amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys darllediadau teledu, y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol. Yn ystod cyfarfod diweddar Grŵp Cynghori Atyniad a Recriwtio Gofal Cymdeithasol Cymru, trafodwyd gwefan Gofalwn Cymru www.gofalwn.cymru o ran sut y gellid ei wella ymhellach i gefnogi'r ymgyrch. Cytunwyd y byddai'n gwneud synnwyr i gynnal sesiynau ar wahân sy'n canolbwyntio'n benodol ar oedolion gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a phlant gofal cymdeithasol. Cynhaliwyd sesiynau yn swyddfeydd Caerdydd a Llanelwy trwy gydol mis Ebrill.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrew.Bell@SocialCare.Wales


Grŵp Polisi Gweithlu ADSS Cymru

Ar gyfer 2019-20 bydd y grŵp yn datblygu safbwynt polisi ADSS Cymru ar y gweithlu i sicrhau eglurder a phwrpas ar gyfer gwaith cenedlaethol yn y dyfodol. Bydd y grŵp yn ymgysylltu â chydweithwyr ADSS Cymru i hysbysu hyn yn fuan.

Mae dyddiadau cyfarfodydd 2019-20 fel a ganlyn:

12eg Ebrill, 1:30pm tan 4pm
28ain Mehefin,  1:30pm tan 3:30 pm
9fed Medi, 10:00am tan 12:30 pm
11eg Tachwedd, 10:00 am tan 12:30 pm
21ain Chwefror,  2020, 1:30 am tan 3:30 pm

Diweddariad ynghylch Rhaglenni Gwaith y Grant Cyflawni Trawsnewid am 2018-19

Mike Shanahan a Paul Pavia


Wrth i flwyddyn arall o waith y Grant Cyflawni Trawsnewid ddod i ben, mae'n gyfle i hysbysu ein partneriaid am y tair ffrwd waith polisi ddiddorol y mae ADSS Cymru wedi bod yn cefnogi Llywodraeth Cymru i'w datblygu.

Fel y bydd aelodau yn gwybod, un o'n hamcanion blaenoriaeth o fewn ein cynllun strategol yw llunio a dylanwadu ar ddatblygiad polisi cyhoeddus ledled Cymru.

Mae gwaith y Grant Cyflawni Trawsnewid, sydd wedi esblygu o weithredu ac ymgorffori Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, wedi rhoi cyfle i ADSS Cymru fod yn bartner arbenigol, wrth galon y broses ddatblygu honno.

Y tair ffrwd waith Grant Cyflawni Trawsnewid y gwnaeth cydweithwyr ADSS Cymru weithio arnynt yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd:

 

Ffrwd waith 1: Modelau ariannu arloesol i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol

Arweiniodd ADSS Cymru ymarfer i gasglu tystiolaeth a chyflwyno barn ystyrlon, ar draws llywodraeth leol, ynghylch pwysau rhagweledig yn y dyfodol ar ofal cymdeithasol ac edrych ar sut fyddai llywodraeth leol yn defnyddio unrhyw elw o unrhyw ardoll gofal cymdeithasol (neu fecanwaith ariannu arall) i ariannu gwasanaethau yn y dyfodol a beth fyddai cynnwys ymarferol unrhyw addewid gofal cymdeithasol o ganlyniad.

Cyflwynwyd ein hadroddiad, a baratowyd ar y cyd â CLlLC a rhanddeiliaid eraill, i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018 ac fe'i hystyriwyd gan Grŵp Rhyng-Weinidogol Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn awr yn helpu i lywio gwaith cysylltiedig arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud cyn i weinidogion benderfynu sut i fynd ymlaen.

Gellir lawrlwytho'r adroddiad hwn bellach trwy wefan ADSS Cymru.

 

Ffrwd waith 2: Modelau cyflwyno gofal arloesol yn y gymuned


Gofynnwyd i ADSS Cymru i ddatblygu gwaith darlun mawr ar ddylunio modelau gofal newydd, sydd â'r nod o gefnogi cyflawni ymrwymiad 'Ffyniant i Bawb' y Llywodraeth i “fuddsoddi mewn model newydd yn y gymuned” ac sy'n cwrdd â'r egwyddorion cynllunio Cymru Iachach o fod yn “datblygol” a “trawsnewidiol”

Mae'r adroddiad dilynol yn:
  • disgrifio'n fanwl 4 prosiect / ymagwedd sefydledig yng Nghymru sy'n diwallu'r ddwy egwyddor cynllunio
  • nodi prosiectau eraill sydd â'r potensial i ddiwallu'r meini prawf dylunio hyn ond sydd ar gamau cynharach
  • tynnu sylw at enghreifftiau Bevan sydd â'r potensial i fod yn “datblygol” ac yn “drawsnewidiol” a lle mae buddion yn ymestyn y tu hwnt i iechyd
  • trafod rhai themâu cyffredinol y mae egwyddorion Cymru Iachach yn berthnasol iddynt ond lle mae mwy o ymagwedd genedlaethol. Rhain yw:
    • cysylltiad a chydlyniad cymunedol
    • ffyrdd cydweithredol a ffyrdd o weithio a arweinir gan ddefnyddwyr
    • cyd-gynhyrchu
  • yn darparu pennod ar weithio ar y cyd rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol
  • yn gosod argymhellion ar gyfer symud ymlaen.
Gellir lawrlwytho'r adroddiad hwn bellach trwy wefan ADSS Cymru (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
 
Ffrwd waith 3: Cefnogi’r defnydd o gronfeydd cyfun

Gwnaeth ADSS Cymru archwilio a datblygu cyfres o nodiadau cyngor technegol, gyda phanel arbenigol allanol, i gefnogi’r defnydd o gronfeydd cyfun ar gyfer integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal ymhellach, yn enwedig ynghylch cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn.

Cyhoeddwyd y nodiadau cyngor diwethaf o'r fath gan Dîm Creu'r Cysylltiadau Llywodraeth Cymru yn 2006.

Mae'r adroddiad sy'n cynnwys y Nodiadau Cyngor, a baratowyd gyda chymorth grŵp arbenigol, yn cynnwys:
  • Cyflwyniad i integreiddio - ystyriaethau allweddol
  • Polisi a deddfwriaeth
  • Materion Ymarferol Datblygu Partneriaeth
  • Llywodraethu
  • Trin TAW mewn Trefniadau Partneriaeth
  • Codi Tâl am Wasanaethau o fewn Cytundebau Rhan 9
  • Goblygiadau Partneriaethau Ffurfiol y Gweithlu

Roedd y gwaith yn peri sawl her i'r tîm, yn enwedig o ystyried y gwahanol safbwyntiau (cenedlaethol, rhanbarthol a lleol) ynghylch datblygu a gweithredu cronfa ranbarthol ar gyfer comisiynu lleoedd hŷn mewn cartrefi gofal i oedolion.

Fodd bynnag, fel sefydliad sy'n gyfrifol am ddangos rhagoriaeth arweinyddiaeth ar bob lefel, mae gwella gallu ein Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni amcanion polisi cenedlaethol yn waith pwysig y dylem fod yn buddsoddi ynddo.

Bydd y gyfres arweiniad ar gael ar wefan ADSS Cymru yn fuan.

Diweddariad rhanbarthol: Bae'r Gorllewin / Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg

Arddangos y Gwahaniaeth - Bae'r Gorllewin yn arddangos llwyddiannau partneriaid y Trydydd Sector

Kirsty Roderick

Ar 19 Mawrth 2019, cynhaliwyd ddigwyddiad 'Arddangos y Gwahaniaeth' yn Stadiwm Liberty Abertawe, digwyddiad arddangos Trydydd Sector a fwriadwyd i ddathlu popeth a gyflawnwyd ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr o ganlyniad i'r 'Gronfa Gofal Integredig' a buddsoddiad ​​'Newid er Gwell '.

Denodd y digwyddiad, a gydlynwyd gan Raglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin mewn partneriaeth â Chynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol y rhanbarth, gynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys y Sectorau Statudol a Thrydydd Sector, Llywodraeth Cymru, yn ogystal â dinasyddion sy'n defnyddio gwasanaethau.

Roedd yn darparu llwyfan i sefydliadau amlygu rhai o'r prosiectau a'r mentrau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ystyrlon i fywydau pobl.

Roedd y rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol a chyffrous o eitemau, gan gynnwys:
  • cyfeiriad fideo a gofnodwyd gan Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • cyflwyniadau a straeon digidol yn amlinellu gwaith da sefydliadau fel Interplay, Cronfa Paul Popham a Chymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru
  • sesiwn sgiliau syrcas rhyngweithiol trwy garedigrwydd Circus Eruption, ac
  • 'ardal farchnad' 'sy'n cynnwys amrywiaeth eang o stondinau gwybodaeth.

Dywedodd yr Athro Andrew Davies, Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin:

“Mae'r arddangosiad yn dangos y rôl gwbl ganolog sydd gan y Trydydd Sector wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau lleol. Roedd yn wych gweld yr effaith sylweddol y mae arian yr ICF a 'Newid er Gwell' wedi cael yn dod yn fyw drwy'r ffilmiau a'r cyflwyniadau, ac rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn gatalydd i sefydliadau geisio am buddsoddiad pellach a adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes.

“Yn wyneb yr hinsawdd ariannol heriol barhaus a'r galw cynyddol am wasanaethau gofal, mae cydweithio effeithiol a chyd-gynhyrchu yn hanfodol. Mae digwyddiadau fel y rhain yn cyfrannu'n helaeth at sefydlu partneriaethau rhanbarthol cynhyrchiol ”.

Y digwyddiad hwn oedd yr olaf o'i fath dan faner 'Bae'r Gorllewin' wrth i newid ffiniau'r Bwrdd Iechyd sy'n effeithio ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr gael ei weithredu ar 1 Ebrill, gan nodi pennod newydd ar gyfer partneriaethau rhanbarthol newydd 'Gorllewin Morgannwg' a 'Cwm Taf Morgannwg '.
Twitter
Website
Copyright © 2018 Association of Directors of Social Services (ADSS) Cymru, All rights reserved.

Our mailing address is:
contact@adsscymru.org.uk

Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
ADSS Cymru · Ty Antur, Navigation Park · Abercynon · Rhondda Cynon Taff, UK CF45 4SN · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp